Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 78:23-29

23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;

Exodus 13:3-10

A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd. Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.

A phan ddygo’r Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn. Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i’r Arglwydd. Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.

A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aifft, y gwneir hyn. A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aifft. 10 Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.

Mathew 16:5-12

Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt.

A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid. A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym. A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi? Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? 10 Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny? 11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid? 12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.