Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 78:23-29

23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;

Exodus 12:43-13:2

43 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono. 44 Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono. 45 Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono. 46 Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ; ac na thorrwch asgwrn ohono. 47 Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny. 48 A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono. 49 Yr un gyfraith fydd i’r priodor, ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysg. 50 Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant. 51 Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.

13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.

1 Corinthiaid 11:27-34

27 Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. 28 Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan. 29 Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd. 30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. 31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid. 32 Eithr pan y’n bernir, y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd. 33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd. 34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.