Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 78:23-29

23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;

Exodus 12:33-42

33 A’r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll. 34 A’r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio, a’u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau. 35 A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd. 36 A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.

37 A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, ynghylch chwe chan mil o wŷr traed, heblaw plant. 38 A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef da lawer iawn. 39 A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o’r Aifft yn deisennau croyw; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o’r Aifft, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.

40 A phreswyliad meibion Israel, tra y trigasant yn yr Aifft, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd. 41 Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ie, o fewn corff y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aifft. 42 Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft: nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel i’w chadw trwy eu hoesoedd.

1 Corinthiaid 11:17-22

17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu. 19 Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi. 20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn. 21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw. 22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.