Revised Common Lectionary (Complementary)
10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
38 Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi. 39 Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt. 40 Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta. 41 Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.
31 Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho. 33 Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta? 34 Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef. 35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf. 36 A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd. 37 Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. 38 Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.