Revised Common Lectionary (Complementary)
10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. 20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? 21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.
9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; 10 Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; 11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.