Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
5 Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni. 2 Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. 3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
4 Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe. 5 Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.
6 A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma. 7 Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion: honno yw dinas Dafydd. 8 A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. 9 A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn. 10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef.
11 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd. 12 A gwybu Dafydd i’r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
15 Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesáu ato ef, i wrando arno. 2 A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.
3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd, 4 Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? 5 Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. 6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid. 7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.