Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 100

Salm o foliant.

100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Sechareia 9:14-10:2

14 A’r Arglwydd a welir trostynt, a’i saeth ef a â allan fel mellten: a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau. 15 Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. 16 A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. 17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.

10 Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law; a’r Arglwydd a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

Actau 20:17-38

17 Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys. 18 A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; 19 Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: 20 Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; 21 Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 22 Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: 23 Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. 24 Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw. 25 Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach. 26 Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: 27 Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

28 Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â’i briod waed. 29 Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. 30 Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl. 31 Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. 32 Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 33 Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais: 34 Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r rhai oedd gyda mi. 35 Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.

36 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll. 37 Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a’i cusanasant ef; 38 Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.