Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
50 Y gair a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd. 2 Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd. 3 Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.
4 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wylo yr ânt, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw. 5 Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr Arglwydd, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir. 6 Fy mhobl a fu fel praidd colledig; eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa. 7 Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd, trigle cyfiawnder; sef yr Arglwydd, gobaith eu tadau.
17 Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny. 18 Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth. 19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. 20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21 A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 22 Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch. 23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi. 24 Anerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch. 25 Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.