Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
12 Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll? 2 Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau. 3 Ond ti, Arglwydd, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa. 4 Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddywedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.
5 O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen? 6 Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.
7 Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion. 8 Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi. 9 Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa. 10 Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol. 11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon. 12 Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd. 13 Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr Arglwydd.
35 A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota: 36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. 37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio. 38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 39 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 40 A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo, 41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. 42 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. 43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.