Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 142

Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.

142 Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd. Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef. Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl. Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid. Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw. Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi. Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.

Amos 9:1-4

Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango. Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno: A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt: Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.

Actau 23:12-35

12 A phan aeth hi yn ddydd, rhai o’r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a’u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul. 13 Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn. 14 A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul. 15 Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i’w ladd ef. 16 Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i’r castell, ac a fynegodd i Paul. 17 A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo. 18 Ac efe a’i cymerth ef, ac a’i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a’m galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt. 19 A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. 21 Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti. 22 Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef. 23 Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o’r nos; 24 A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw. 25 Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma: 26 Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch. 27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â’i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd. 28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt: 29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau. 30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr, myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach. 31 Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris. 32 A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i’r castell: 33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef. 34 Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd; 35 Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.