Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn. 8 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach. 9 Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.
10 Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef. 11 Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad. 12 Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno: 13 Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.
14 Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion: 15 A’r Arglwydd a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd; a’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.
8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. 9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist: 4 Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: 5 Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, 6 Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd: 7 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef; 8 Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, 9 Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun: 10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef: 11 Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun: 12 Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef, y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist. 13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid; 14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.
14 A’r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 15 Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o’r proffwydi. 16 Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw. 17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi. 18 Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd. 19 Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd: 20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar. 21 Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea: 22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti. 23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas. 24 A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr. 25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. 26 A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. 27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef. 28 Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam. 29 A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i dodasant mewn bedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.