Revised Common Lectionary (Complementary)
81 Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl. 82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni? 83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau. 84 Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant? 85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di. 86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi. 87 Braidd na’m difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion. 88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.LAMED
14 Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft: 15 Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.
16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau. 17 Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid. 18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd; ie, â’u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth. 19 O Arglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. 20 A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau? 21 Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw.
7 A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. 2 A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. 3 Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. 4 Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. 5 Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. 6 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. 7 Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. 8 Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. 9 Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.