Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 123

Caniad y graddau.

123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.

Jeremeia 7:27-34

27 Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di. 28 Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr Arglwydd ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt.

29 Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint. 30 Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr Arglwydd: gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. 31 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a’u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.

32 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnom, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle. 33 A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo. 34 Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.

Mathew 8:18-22

18 A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21 Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.