Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. 2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. 3 Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. 4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
7 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2 Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd. 3 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma. 4 Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd ydynt. 5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog; 6 Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun; 7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les. 9 Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch; 10 Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll? 11 Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr Arglwydd. 12 Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel. 13 Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr Arglwydd, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch: 14 Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo. 15 A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.
8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. 9 Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13 Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.