Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.
88 O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. 2 Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. 3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. 4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. 5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. 6 Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. 7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela. 8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan. 9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat. 10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela. 11 A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw? 12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof? 13 Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen. 14 Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? 15 Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso. 16 Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith. 17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant. 18 Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl. 2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd, 3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi. 4 Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i’w aflanhau ei hun. 5 Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd. 6 Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd. 7 Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw. 8 A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9 Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân. 10 A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad: 11 Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam: 12 Ac nac aed allan o’r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd. 13 A chymered efe wraig yn ei morwyndod. 14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig. 15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.
16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus. 17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun. 18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; 19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi: 20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym: 21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. 22 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch. 23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau’r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. 24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.