Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 65

I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.

65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Exodus 9:13-35

13 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear. 15 Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear. 16 Ac yn ddiau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear. 17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith? 18 Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon. 19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw. 20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai; 21 A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.

22 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft. 23 A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd: a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft. 24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth. 25 A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes. 26 Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

27 A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol. 28 Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy. 29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear. 30 Ond mi a wn nad wyt ti eto, na’th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw. 31 A’r llin a’r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu: 32 A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy. 33 A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear. 34 A phan welodd Pharo beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision. 35 A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.

Actau 27:39-44

39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i’r hon y cyngorasant, os gallent, wthio’r llong iddi. 40 Ac wedi iddynt godi’r angorau, hwy a ymollyngasant i’r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lan. 41 Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a’r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau. 42 A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith. 43 Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i’r môr, a myned allan i’r tir: 44 Ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.