Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 38:1-11

38 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, 10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, 11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.

Salmau 107:1-3

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.

Salmau 107:23-32

23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. 24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i ryfeddodau yn y dyfnder. 25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef. 26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder. 27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd. 28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau. 29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant. 30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent. 31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

2 Corinthiaid 6:1-13

A ninnau, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer: (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth: Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau, Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith, Yng ngair gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy, Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir; Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn meirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd; 10 Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth. 11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd. 12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. 13 Ond am yr un tâl, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd.

Marc 4:35-41

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. 36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. 37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. 38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? 39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. 40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.