Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 107:1-3

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.

Salmau 107:23-32

23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. 24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i ryfeddodau yn y dyfnder. 25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef. 26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder. 27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd. 28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau. 29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant. 30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent. 31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

Job 29:21-30:15

21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor. 22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy. 23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law. 24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio. 25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

30 Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid. I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy. Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt: Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt. Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;) I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau. Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl. Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt. Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt. 10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb. 11 Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i. 12 Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr. 13 Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt. 14 Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith. 15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl.

Actau 21:1-16

21 A digwyddodd, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara. A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith. Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem. A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â’r gwragedd a’r plant, a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom. Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd, ni a ddringasom i’r llong; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref. Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt. A thrannoeth, y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, (yr hwn oedd un o’r saith,) ni a arosasom gydag ef. Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, yn proffwydo. 10 Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus. 11 Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd. 12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem. 13 Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. 14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. 15 Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem. 16 A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda’r hwn y lletyem.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.