Revised Common Lectionary (Complementary)
107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; 3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.
23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. 24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i ryfeddodau yn y dyfnder. 25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef. 26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder. 27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd. 28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau. 29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant. 30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent. 31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
29 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, 2 O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; 3 Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; 4 Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; 5 Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; 6 Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! 7 Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, 8 Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. 9 Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau. 11 Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi: 12 Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. 13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu. 14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron. 15 Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff. 16 Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. 17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef. 18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod. 19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig. 20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw.
20 Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. 2 Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 3 Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. 4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. 5 Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. 6 A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. 7 Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. 8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. 9 A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 10 A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 11 Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 12 A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.
13 Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed. 14 A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a’i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. 15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a’r ail dydd y daethom i Miletus. 16 Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.