Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm neu Gân ar y dydd Saboth.
92 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf: 2 A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau; 3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol. 4 Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.
12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. 13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw. 14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: 15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
26 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem. 27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
28 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 29 A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.
11 Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau; 2 O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad. 3 Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef. 4 A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. 5 Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid. 6 A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. 7 Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd‐dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon. 8 Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i’w duwiau.
4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. 5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6 Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.