Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 74

Maschil Asaff.

74 Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. 10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? 11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. 12 Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. 13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. 15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. 16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. 17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf. 18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw. 19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth. 20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster. 21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd. 23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Eseia 26:16-27:1

16 Mewn adfyd, Arglwydd, yr ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt. 17 Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos i esgor; felly yr oeddem o’th flaen di, Arglwydd. 18 Beichiogasom, gofidiasom, oeddem fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant. 19 Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a’r ddaear a fwrw y meirw allan.

20 Tyred, fy mhobl, dos i’th ystafelloedd, a chae dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio. 21 Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o’i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear: a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.

27 Ydydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â’i gleddyf caled, mawr, a chadarn, â lefiathan y sarff hirbraff, ie, â lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr.

Luc 11:14-28

14 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru: a’r bobloedd a ryfeddasant. 15 Eithr rhai ohonyn a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. 16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o’r nef. 17 Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth. 18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid. 19 Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi. 21 Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch: 22 Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. 23 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru. 24 Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. 25 A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu. 26 Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad.

27 A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist. 28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.