Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 29

Salm Dafydd.

29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.

Eseia 2:1-5

Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem. A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato. A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem. Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.

Rhufeiniaid 8:9-11

Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10 Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 11 Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.