Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
47 Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd. 2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear. 3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed. 4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela. 5 Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn. 6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch. 7 Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus. 8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd. 9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.
34 A Moses a esgynnodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan, 2 A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y môr eithaf, 3 Y deau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar. 4 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma’r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â’th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.
5 A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd. 6 Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth‐peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.
7 A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef.
4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. 5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? 6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. 7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. 8 A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: 9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.