Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. 3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? 5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. 6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. 7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 8 Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. 9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
9 Cyfodwch, wragedd di‐waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal. 10 Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull. 11 Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau. 12 Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. 13 Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd. 14 Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau; 15 Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. 16 Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir. 17 A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth. 18 A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. 19 Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel. 20 Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno.
17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.