Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 80

I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.

80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

Eseia 5:1-7

Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon: Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion. Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan. Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa; A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni. Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyfiawnder, ac wele lef.

Galatiaid 5:16-26

16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. 17 Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. 18 Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. 19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 20 Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, 21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22 Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: 23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. 24 A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. 25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. 26 Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.