Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 95

95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.

Micha 7:8-20

Na lawenycha i’m herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi. Dioddefaf ddig yr Arglwydd, canys pechais i’w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a’m dwg allan i’r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. 10 A’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd a’i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr Arglwydd dy Dduw? fy llygaid a’i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. 11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. 12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. 13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.

14 Portha dy bobl â’th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. 15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.

16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. 17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau: arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o’th achos di yr ofnant.

18 Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. 19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. 20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.

Marc 14:26-31

26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. 28 Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 29 Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi. 30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith. 31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.