Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 23

Salm Dafydd.

23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.

Genesis 30:25-43

25 A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun. 26 Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti. 27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di. 28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf. 29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi. 30 Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun? 31 Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn. 32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith, a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid; y mawr‐frith hefyd a’r mân‐frith ymhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog. 33 A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi. 34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di! 35 Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a’r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun. 36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

37 A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio’r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail. 38 Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai’r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed. 39 A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a’r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion. 40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o’r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt. 41 A phob amser y cyfebrai’r defaid cryfaf, Jacob a osodai’r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail; 42 Ond pan fyddai’r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob. 43 A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.

Actau 3:17-26

17 Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd. 18 Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd; 20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi: 21 Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed. 22 Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych. 23 A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl. 24 A’r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o’r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. 25 Chwychwi ydych blant y proffwydi, a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear. 26 Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.