Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 150

150 Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth. Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd. Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn. Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ. Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar. Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Jeremeia 30:1-11

30 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd, Duw Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr. Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr Arglwydd: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi.

Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr Arglwydd am Israel, ac am Jwda: Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch. Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â’i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth esgor, ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni? Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono. Canys y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach. Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.

10 Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr Arglwydd; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a’i dychryno. 11 Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr Arglwydd, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd.

1 Ioan 3:10-16

10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. 11 Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. 12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. 14 Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15 Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.