Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
4 Gwrando fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi. 2 O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela. 3 Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno. 4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela. 5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd. 6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb. 7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt. 8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
9 Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus, o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid, 2 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem.
3 Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. 4 A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; 5 Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau. 6 Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir. 7 I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn. 8 Arglwydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n tadau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn. 9 Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn. 10 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi. 11 Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw, am bechu ohonom yn ei erbyn ef. 12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem. 13 Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di. 14 Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef. 15 Eto yr awr hon, O Arglwydd ein Duw, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.
16 O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch. 17 Ond yr awr hon gwrando, O ein Duw ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr Arglwydd. 18 Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di. 19 Clyw, Arglwydd; arbed, Arglwydd; ystyr, O Arglwydd, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.
18 O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw. 19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni. 20 Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth. 21 Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd. 22 Pwy yw’r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist? Efe yw’r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab. 23 Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab, nid oes ganddo’r Tad chwaith: [ond] yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd. 24 Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o’r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad. 25 A hon yw’r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.