Revised Common Lectionary (Complementary)
135 Molwch yr Arglwydd. Molwch enw yr Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef. 2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd, yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni, 3 Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw. 4 Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo. 5 Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau. 6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau. 7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau. 8 Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail. 9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision. 10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion; 11 Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan: 12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl. 13 Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth. 14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision. 15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn. 16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant. 17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau. 18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron. 20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd. 21 Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
26 Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur. 2 Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd. 3 Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot. 4 Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol.
5 Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a’i darostwng hi i’r llawr, ac a’i bwrw hi i’r llwch. 6 Troed a’i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre’r tlodion. 7 Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn. 8 Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y’th ddisgwyliasom, Arglwydd; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth. 9 A’m henaid y’th ddymunais liw nos; â’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear. 10 Gwneler cymwynas i’r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr Arglwydd. 11 Ni welant, Arglwydd, pan ddyrchafer dy law: eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl; ie, tân dy elynion a’u hysa hwynt.
12 Arglwydd, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni. 13 O Arglwydd ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw. 14 Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt. 15 Ychwanegaist ar y genedl, O Arglwydd, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear.
18 Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, 19 Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had. 21 A’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd. 22 A hwy a’i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd. 23 Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 24 A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw? 25 Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd. 26 Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? 27 Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw’r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.