Revised Common Lectionary (Complementary)
32 A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin. 33 A’r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll. 34 Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a’u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid, 35 Ac a’u gosodasant wrth draed yr apostolion: a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! 2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: 3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
1 Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd; 2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;) 3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist. 4 A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 5 A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. 6 Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd: 7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod. 8 Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. 9 Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. 10 Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
2 Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: 2 Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.
19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. 21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi. 22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân. 23 Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.
24 Eithr Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu. 25 Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
26 Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi. 27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun. 28 A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw. 29 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
30 A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 31 Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.