Revised Common Lectionary (Complementary)
118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo. 25 Atolwg, Arglwydd, achub yn awr: atolwg, Arglwydd pâr yn awr lwyddiant. 26 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd. 27 Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor. 28 Fy Nuw ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw. 29 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
33 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau, yr Arglwydd yw ei enw: 3 Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. 4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf; 5 Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt. 6 Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd. 7 A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. 8 A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.
9 A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon.
12 Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn. 13 Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef. 14 Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau; 15 Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd; 16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer. 17 Ie, a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll. 18 Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.