Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. 10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. 11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. 12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. 13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. 14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. 15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. 16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.GIMEL
44 Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais. 3 Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: 4 A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd. 5 Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â’i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel. 6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel, a’i Waredydd, Arglwydd y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi. 7 Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a’r pethau a ddaw. 8 Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig. 22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: 23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: 24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.