Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. 10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. 11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. 12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. 13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. 14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. 15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. 16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.GIMEL
8 Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt. 9 Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw. 10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl. 11 Myfi, myfi yw yr Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi. 12 Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr Arglwydd, mai myfi sydd Dduw. 13 Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia?
4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: 5 Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw; 6 Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau. 7 Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd; 8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant? 9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant. 10 Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol. 11 Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.