Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 107:1-16

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni. 10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn: 11 Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf. 12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr. 13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. 14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt. 15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

Eseia 60:15-22

15 Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau. 16 Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob. 17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn. 18 Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant. 19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th Dduw yn ogoniant i ti. 20 Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant. 21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder. 22 Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.

Ioan 8:12-20

12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd. 13 Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir. 14 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. 15 Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb. 16 Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 17 Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn. 18 Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi. 19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd. 20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.