Revised Common Lectionary (Complementary)
107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; 3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. 4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: 5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. 6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; 7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. 8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni. 10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn: 11 Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf. 12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr. 13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. 14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt. 15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
20 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. 2 Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd! 4 Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? 5 A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? 6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 8 Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. 9 A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo. 10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? 11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. 13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
6 A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy. 7 Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. 8 Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. 9 Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff. 10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd. 11 A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. 12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.