Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora.
84 Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd! 2 Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw. 3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a’m Duw. 4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela. 5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon: 6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau. 7 Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. 9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
6 Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon. 2 A chafwyd yn Achmetha, yn y llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth: 3 Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led: 4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin. 5 A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw. 6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi yno. 7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le. 8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith. 9 A’r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid: 10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion. 11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny. 12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd. 14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia. 15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd;
15 A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: 16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. 17 Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 18 A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. 19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.