Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 105:1-11

105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

Salmau 105:37-45

37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Jeremeia 30:12-22

12 Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll. 13 Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y’th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti. 14 Dy holl gariadau a’th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a’th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant. 15 Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bechodau y gwneuthum hyn i ti. 16 Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail. 17 Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr Arglwydd; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. 19 A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael. 20 Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt. 21 A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr Arglwydd. 22 A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau.

Ioan 12:36-43

36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: 38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, 40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. 41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.

42 Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.