Revised Common Lectionary (Complementary)
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. 7 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: 9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai. 2 Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef. 3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac. 4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef. 5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6 A Sara a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. 7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. 9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11 Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.