Revised Common Lectionary (Complementary)
23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd. 29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun. 30 Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth. 31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.
16 Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw Agar. 2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai. 3 A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi. 5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi. 6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
4 Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd? 2 Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. 3 Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 4 Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. 5 Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. 6 Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, 7 Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: 8 Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. 9 A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. 10 Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. 11 Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: 12 Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.