Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. 2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. 3 Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela. 4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. 5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd. 6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. 7 Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy? 8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? 9 A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela. 10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf. 11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.
8 Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos: 9 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi: 10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd: 11 Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth. 12 Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben. 13 Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir. 14 Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos. 15 Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn. 16 Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn. 17 Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog. 18 Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachânt. 19 Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi. 20 Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf. 21 Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo. 22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear. 23 Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi. 24 A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi. 25 A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear. 26 Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser. 27 Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.
8 Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: 9 Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith. 10 Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll: 11 Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef. 12 Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg. 13 A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda? 14 Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer; 15 Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn: 16 A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. 17 Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni. 18 Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.