Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 77

I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.

77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela. Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd. Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy? A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela. 10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf. 11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

Job 4

Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion? Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu. Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu. Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist. Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith? Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith? Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant. Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant. 10 Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd. 11 Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd. 12 Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono. 13 Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, 14 Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu. 15 Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll. 16 Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd, 17 A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr? 18 Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd: 19 Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn? 20 O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried. 21 Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

Effesiaid 2:1-10

A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod; Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;) Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. 10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.