Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 2 O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. 3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. 4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. 5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. 6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. 7 Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. 8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. 9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.
9 Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus, o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid, 2 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem.
3 Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. 4 A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; 5 Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau. 6 Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir. 7 I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn. 8 Arglwydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n tadau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn. 9 Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn. 10 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi. 11 Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw, am bechu ohonom yn ei erbyn ef. 12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem. 13 Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di. 14 Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.
3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist. 4 A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 5 A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. 6 Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd: 7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod. 8 Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. 9 Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. 10 Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.