Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Asaff.
50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. 2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. 3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. 4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. 5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. 6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela.
26 A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. 27 Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Solomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad. 28 A’r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff. 29 A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes. 30 Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau. 31 Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti: 32 (Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:) 33 Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. 34 Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i: 35 Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth. 36 Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth; fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. 37 A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon; a thi a fyddi frenin ar Israel. 38 Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. 39 A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd. 40 Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.
12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, 13 Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia. 14 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. 15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: 16 I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn? 17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.