Revised Common Lectionary (Complementary)
12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth. 14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. 15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant. 17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad. 18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd. 19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear; 20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau; 21 I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem: 22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd. 23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau. 24 Dywedais, Fy Nuw, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd. 25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo. 26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir. 27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant. 28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
6 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau! 3 Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf. 4 Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn. 5 A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant? 6 A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy? 7 Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi. 8 O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl! 9 Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith. 10 Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd. 11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl? 12 Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres? 13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?
7 A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, 8 Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. 9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. 10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. 11 A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.