Revised Common Lectionary (Complementary)
12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth. 14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. 15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant. 17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad. 18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd. 19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear; 20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau; 21 I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem: 22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd. 23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau. 24 Dywedais, Fy Nuw, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd. 25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo. 26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir. 27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant. 28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
8 A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara. 9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol. 10 Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni. 11 Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd yno. 12 Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef. 13 Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni â’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo. 14 Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen. 15 Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws. 16 Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn. 17 A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.
32 A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef. 33 Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr Arglwydd. 34 Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen. 35 Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid. 36 Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab. 37 A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.
14 Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd. 2 Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr. 3 Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt. 4 Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion. 5 A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u llywodraethwyr, i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio, 6 Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: 7 Ac yno y buant yn efengylu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.