Revised Common Lectionary (Complementary)
21 Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear? 22 Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a’i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi: 23 Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear. 24 Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel sofl. 25 I bwy gan hynny y’m cyffelybwch, ac y’m cystedlir? medd y Sanct. 26 Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un. 27 Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd, a’m barn a aeth heibio i’m Duw?
28 Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef. 29 Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di‐rym. 30 Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: 31 Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.
147 Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i’n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl. 2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel. 3 Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. 4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau. 5 Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall. 6 Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr. 7 Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i’n Duw â’r delyn; 8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. 9 Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. 10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. 11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.
16 Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl. 17 Canys os gwnaf hyn o’m bodd, y mae i mi wobr: ond os o’m hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl. 18 Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl. 19 Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy. 20 Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Iddewon; i’r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf; 21 I’r rhai di‐ddeddf, megis di‐ddeddf, (a minnau heb fod yn ddi‐ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di‐ddeddf. 22 Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai. 23 A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y’m gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni.
29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. 30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. 31 Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. 32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. 33 A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 35 A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 36 A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. 37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. 39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.