Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 147:1-11

147 Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i’n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl. Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel. Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau. Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall. Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr. Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i’n Duw â’r delyn; Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. 10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. 11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.

Salmau 147:20

20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.

Eseia 46

46 Crymodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diffygiol. Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.

Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru: Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.

I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch, ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg? Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant. Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a’i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o’i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o’i gystudd. Cofiwch hyn, a byddwch wŷr: atgofiwch, droseddwyr. Cofiwch y pethau gynt erioed; canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math; 10 Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf: 11 Yn galw aderyn o’r dwyrain, y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf.

12 Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder: 13 Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.

Mathew 12:9-14

Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt.

10 Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. 13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14 Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.