Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 147:1-11

147 Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i’n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl. Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel. Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau. Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall. Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr. Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i’n Duw â’r delyn; Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. 10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. 11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.

Salmau 147:20

20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.

Job 36:1-23

36 Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd, Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw. O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder. Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi. Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe. Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid. Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir. Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder; Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt: 10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd. 11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch. 12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth. 13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt. 14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan. 15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder. 16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster. 17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot. 18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr. 19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth. 20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle. 21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd. 22 Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe? 23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?

1 Corinthiaid 9:1-16

Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd. Fy amddiffyn i, i’r rhai a’m holant, yw hwn; Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed? Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i’r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas? Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio? Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd? Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn? Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu? 10 Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o’i obaith. 11 Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol? 12 Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist. 13 Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd‐gyfranogion o’r allor? 14 Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl, fyw wrth yr efengyl. 15 Eithr myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer. 16 Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.