Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
35 Dadlau fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi. 2 Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth. 3 Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth. 4 Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu. 5 Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid. 6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid. 7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid. 8 Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw. 9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef. 10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb a’i hysbeilio?
29 Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon; 2 (Wedi myned Jechoneia y brenin, a’r frenhines, a’r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a’r seiri a’r gofaint, allan o Jerwsalem;) 3 Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hilceia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd, 4 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon; 5 Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 6 Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch. 7 Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.
8 Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio: 9 Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais i mohonynt, medd yr Arglwydd.
10 Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf â chwi, ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn. 11 Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr Arglwydd, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl. 12 Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddïwch arnaf fi, a minnau a’ch gwrandawaf. 13 Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch â’ch holl galon. 14 A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr Arglwydd, a mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai y’ch gyrrais iddynt, medd yr Arglwydd; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.
5 A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid. 2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo, 3 Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef: 4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef. 5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig. 6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef; 7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi. 8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.) 9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom. 10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad. 11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori. 12 A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt. 13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr. 14 A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid. 15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant. 16 A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch. 17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt. 18 Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef. 19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt. 20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.